Hyfforddiant technoleg ddigidol

Mewn partneriaeth â Cymunedau Digidol Cymru rydym yn eich croesawu i sesiwn hyfforddi i helpu pobl sy’n byw gyda chyflwr niwrolegol i ddefnyddio technoleg digidol.

5 ffordd i les meddyliol

3ydd Chwefror,
3:15-4:15pm

 

Mae’n bosibl bod y ffordd rydych chi’n cynnal eich iechyd a’ch lles eich hun neu iechyd a lles pobl eraill hefyd wedi newid. Yn y gweminar hon sy’n rhad ac am ddim ac yn para awr, bydd Cymunedau Digidol Cymru yn rhoi trosolwg o sawl opsiwn digidol ar gyfer cefnogi eich iechyd a’ch lles chi eich hun neu rywun rydych chi’n ei adnabod. Byddwn yn rhoi trosolwg i chi o’r opsiynau digidol y gallwch eu darganfod ac yn cysylltu ein crynodeb â chanllawiau Pum Cam at Les Meddyliol y GIG.

Cyflwynir y sesiwn hon yn Saesneg

 

Cofrestrwch am ddim

 


Ymlaciwch gyda apiau synhwyraidd

3ydd Mawrth,
2-3pm

 

Ydych chi’n cael trafferth cysgu? Neu efallai eich bod chi’n ei chael hi’n anodd dadflino? Mae apiau synhwyro yn ffordd gwych i chi ymlacio a ddiffodd ffwrdd o’r byd prysur. Yn ystod y sesiwn hon, byddwn yn trafod amrywiaeth o wahanol apiau synhwyro y gallwch gael ar eich dyfais, i hyrwyddo ymwybyddiaeth ofalgar, ymlacio a dod yn fersiwn well ohonoch chi’ch hun.

 

Cofrestrwch am ddim

 


Hel straeon digidol

21ain Ebrill,
2-3pm

 

Mae llawer o ddefnyddiau anhygoel ar gyfer technoleg ddigidol ac un o’n ffefrynnau ni yn Cymunedau Digidol Cymru yw’r galluoedd Hel Straeon Digidol gwych y gallwn eu cyflawni drwy ddefnyddio dim byd ond ein ffonau clyfar.

Mae Hel Straeon Digidol yn caniatáu i ddefnyddwyr greu fideos byr ar ein dyfeisiau: o daith drwy eich atgofion i greu cyfarwyddiadau defnyddiol i rywun Yn ystod y sesiwn hon byddwn yn dangos sut y gallech ddefnyddio’r apiau hyn i uwchlwytho delweddau o’ch cartref neu’r we a’u cyfuno â throslais neu destun ysgrifenedig a cherddoriaeth i greu clipiau fideo pwerus, byr. Bydd y gweminar rhad ac am ddim hon yn para tua awr, wrth i ni eich tywys ar eich taith i adrodd stori drwy ddefnyddio Technoleg Ddigidol.

Cyflwynir y sesiwn hon yn Saesneg

 

Cofrestrwch am ddim