Amdanom ni

Fforwm pwrpasol, â ffocws pendant iddo, yw Cynghrair Niwrolegol Cymru ac mae’n cynnwys sefydliadau a grwpiau dielw sy’n cynrychioli miloedd lawer o bobl yr effeithir arnynt gan gyflyrau niwrolegol yng Nghymru.

Ein Datganiad Cenhadaeth

Rydym yn cefnogi pobl sydd â chyflyrau niwrolegol yng Nghymru yn byw bywyd gorau posibl drwy ddylanwadu ar bolisi, codi ymwybyddiaeth a datblygu gwasanaethau.

Ein Gweledigaeth

Bydd y gofal gorau posibl ar gael i bobl sy’n byw gyda chyflyrau niwrolegol, bydd ganddynt reolaeth dros eu bywydau a byddant yn cael byw yn rhydd rhag anwybodaeth ac anghyfiawnder.

Nod

Gwella gwasanaethau i bobl yr effeithir arnynt gan gyflyrau niwrolegol