Gosod y sylfeini ar gyfer newid:
Effaith Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol Llywodraeth Cymru
Adroddiad ar Ymchwiliad y Grŵp Trawsbleidiol ar Gyflyrau Niwrolegol
Amcangyfrifir bod 100,000 o bobl a’u teuluoedd yng Nghymru yn byw gyda chyflwr niwrolegol sy’n cael effaith sylweddol ar eu bywydau.
Fforwm o sefydliadau a grwpiau sy’n cynrychioli pobl yng Nghymru yr effeithir arnynt gan gyflyrau niwrolegol yw Cynghrair Niwrolegol Cymru.
Ein Datganiad Cenhadaeth
Rydym yn cefnogi pobl sydd â chyflyrau niwrolegol yng Nghymru yn byw bywyd gorau posibl drwy ddylanwadu ar bolisi, codi ymwybyddiaeth a datblygu gwasanaethau.
Ein Gweledigaeth
Bydd y gofal gorau posibl ar gael i bobl sy’n byw gyda chyflyrau niwrolegol, bydd ganddynt reolaeth dros eu bywydau a byddant yn cael byw yn rhydd rhag anwybodaeth ac anghyfiawnder.