Wales Neurological Alliance logo

‘Darparu llais Cymreig cryf i fynegi
buddiannau cyffredin pobl yr effeithir
arnynt gan gyflyrau niwrolegol’

 
 
 

Ein Gwaith

Mae’r Gynghrair wedi bod yn brysur ac yn gynhyrchiol yn ystod 2009 a 2010. Gwelwyd
ein haelodaeth yn parhau i gynyddu a’n rhwydweithiau’n ehangu wrth i ni gryfhau ein
partneriaethau â chynghreiriau eraill o amgylch Cymru, a chreu cysylltiadau cryf â nifer o
grwpiau a sefydliadau proffesiynol.

Yn ystod y cyfnod hwn, mae’r Gynghrair wedi:

•  Cyfrannu at y trafodaethau ynglŷn â chynllunio a darparu gwasanaethau iechyd
niwrowyddorau yn y dyfodol, ar ôl cyhoeddi Adolygiad Steers.
Cynnal arolwg holiadur ymhlith unigolion sy’n byw â chyflyrau niwrolegol yng
nghanolbarth a de Cymru.
Cryfhau ein cysylltiadau â’r Grŵp Trawsbleidiol ar Niwrowyddorau yng Nghynulliad
Cenedlaethol Cymru.
Cyflwyno ymatebion i sawl ymgynghoriad ac ymchwiliad gan Lywodraeth Cynulliad
Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cymryd rhan mewn sawl gweithgor a drefnwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Gwella’r cysylltiadau ag aelodau trwy baratoi dalen newyddion reolaidd sy’n rhoi’r
wybodaeth ddiweddaraf i aelodau am waith y Gynghrair.

Meysydd gwaith allweddol y mae’r Gynghrair yn ymwneud â nhw:

•  Adolygiad Niwrowyddorau Cymru
Blaenoriaethau Cleifion ar gyfer Datblygu Gwasanaethau Niwrowyddorau yng
Ngogledd, Canolbarth a De Cymru
Y Grŵp Trawsbleidiol ar Niwrowyddorau
Y Mesur Arfaethedig ynghylch Codi Ffïoedd am Wasanaethau Gofal
Cymdeithasol (Cymru)
Diwrnodau Astudio Rheoli Symptomau
Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Lwybrau Gofal ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol
Hirdymor – Adroddiad
Adolygiad Cymru Gyfan ar Ystum y Corff a Symudedd – Bwrdd Prosiect Cam
Dau
Gofal Cymdeithasol i Oedolion – Papur Ymgynghori Rhif 192 Comisiwn y
Gyfraith
Y Gymdeithas Cymorth ME a CFS (WAMES)
Mesur ynghylch Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010
Map Meddygaeth
Adolygiad Cyfarpar Cymunedol
Hawlfraint 2010 © Cynghrair Niwrolegol Cymru < Yn ôl | I’r brig ^