Wales Neurological Alliance logo

‘Darparu llais Cymreig cryf i fynegi
buddiannau cyffredin pobl yr effeithir
arnynt gan gyflyrau niwrolegol’

 
 
 
Aelodau’r Gynghrair

Ymunwch â ni

Os ydych chi neu eich sefydliad yn rhannu gweledigaeth y Gynghrair, sef y bydd y gofal gorau posibl ar gael i bobl sy’n byw gyda chyflyrau niwrolegol, bydd ganddynt reolaeth dros eu bywydau a byddant yn cael byw yn rhydd rhag anwybodaeth ac anghyfiawnder, efallai yr hoffech ymuno â ni. Mae dod yn aelod o’r Gynghrair yn golygu y gallwn gydweithio’n well, cael llais cryfach a sicrhau ein bod yn codi ymwybyddiaeth, yn dylanwadu ar bolisi ac yn gwella gofal i bobl â chyflyrau niwrolegol.

Pris aelodaeth yw £50 y flwyddyn ar hyn o bryd.

I weld y manylion lawrlwythwch ein ffurflen aelodaeth.


Aelodau Presennol

Mae saith sefydliad ar hugain yn aelodau o Gynghrair Niwrolegol Cymru ar hyn o bryd ac fe’u rhestrir isod. Cliciwch ar sefydliad i gael gwybodaeth am ei waith:


Cymdeithas Alzheimer Different Strokes Ymgyrch Nychdod Cyhyrol
Cymdeithas Spina Bifida a Hydroseffalws (ASBAH) Cymru Y Gymdeithas Enseffalitis Cymdeithas Myasthenia Gravis
Atacsia De Cymru Epilepsy Action Grŵp Cymorth Dystroffi Myotonig
Brain & Spine Foundation Epilepsi Cymru Multiple Sclerosis Society Cymru (MSSoc)
Cerebra
Genetic Alliance UK National Tremor Foundation
Charcot-Marie-Tooth United Kingdom (CMT UK) Grŵp Cymorth Syndrom Guillain-Barré Parkinson’s UK
Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi Headway UK yng Nghymru

Progressive Supranuclear Palsy Society
Coleg Therapyddion Galwedigaethol Cymdeithas Clefyd Huntington Y Gymdeithas Strôc
Cymdeithas Dystonia Cymdeithas Clefyd Niwronau Motor (MNDAssoc) Cymdeithas Cymorth ME a CFS Cymru

 


 

Cymdeithas Alzheimer

Llinell Gymorth Dementia: 0845 300 0336

Sefydliad aelodaeth yw Cymdeithas Alzheimer sy’n gweithio i wella ansawdd bywyd pobl yr effeithir arnynt gan ddementia yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae’r Gymdeithas yn darparu gwybodaeth a mwy na 2,000 o wasanaethau cymorth lleol i bobl yr effeithir arnynt gan ddementia yn eu cymunedau.

Cymdeithas Alzheimer
Swyddfa Genedlaethol Cymru
16 Columbus Walk
Glanfa’r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4BY

Ffôn. 029 2048 0593

E-bost ROWS@alzheimers.org.uk

Gwefan www.alzheimers.org.uk

^ I’r brig

 

Cymdeithas Spina Bifida a Hydroseffalws (ASBAH) Cymru

ASBAH Cymru (y Gymdeithas Spina Bifida a Hydroseffalws) yw’r unig sefydliad yng Nghymru sy’n ymroddedig i ddarparu cymorth i bobl sydd â spina bifida a/neu hydroseffalws (SB/H).

Rydym yn gweithio gydag unigolion, eu brodyr a’u chwiorydd, eu teuluoedd a’u gofalwyr i ddarparu eiriolaeth, cyngor, cymorth a chyfleoedd cymdeithasol er mwyn hybu ac annog dewis unigol, rheolaeth ac ansawdd bywyd.

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Kate Thomas, Cyfarwyddwr ASBAH Cymru, ar 01656 864102 neu anfonwch e-bost at katet@asbah.org

Gwefan: www.asbah.org

Newyddion diweddaraf: www.asbah.org/About+ASBAH/Latest+News

Facebook: www.facebook.com/ASBAH.charity

Dilynwch ni ar Trydar: www.twitter.com/ASBAH_Charity

^ I’r brig

 

Atacsia De Cymru

Mae Atacsia De Cymru yn gangen o Ataxia UK.

Mae Ataxia UK yn gweithio mewn dwy brif ffordd: rydym yn ariannu ymchwil i ganfod triniaethau a gwellhad ar gyfer atacsia, ac rydym yn cynorthwyo pobl trwy ein hamrywiaeth o wasanaethau.

Ystyr 'Atacsia' yw ‘diffyg trefn’. Mae pobl ag atacsia yn cael problemau symud, cydbwysedd a lleferydd. Mae gan dros 10,000 o bobl yn y DU ryw ffurf ar atacsia. Nid oes gwellhad i’r cyflwr ar hyn o bryd ond rydym yn gweithio bob dydd i ganfod un.

Ffôn: 020 7582 1444

Llinell gymorth Ataxia UK 0845 644 0606.

Gwefan http://www.ataxia.org.uk/

Atacsia De Cymru

Gwefan www.ataxiasouthwales.org.uk

Ffôn (Alan Thomas) 01994 448397

^ I’r brig

 

Brain & Spine Foundation

Llinell gymorth 0808 808 1000

Mae Llinell Gymorth y Brain & Spine Foundation yn rhoi cymorth a gwybodaeth i’r rhai hynny yr effeithir arnynt gan y cyflyrau niferus sy’n gysylltiedig â’r ymennydd a’r asgwrn cefn. Gweithredir ein llinell gymorth gan nyrsys Niwrowyddorau sy’n gallu helpu gydag amrywiaeth eang o gyflyrau ac ymholiadau. Ymdrinnir â phob cyflwr niwrolegol, o rai eithaf cyffredin i rai prin iawn, a gellir cynnig gwybodaeth a chymorth ynglŷn ag unrhyw bryderon meddygol neu gymdeithasol ac emosiynol cysylltiedig. Mae’r gwasanaeth yn ateb ymholiadau dros y ffôn neu drwy lythyr neu e-bost, yn ogystal â rhoi cyfle i bobl rannu eu profiadau o fod â chyflwr niwrolegol yn y fforwm trafod.

Brain and Spine Foundation
3.36 Canterbury Court
Kennington Park
1-3 Brixton Road
London
SW9 6DE

Ffôn: 020 7793 5900  (Prif Switsfwrdd)

Llinell gymorth: 0808 808 1000

E-bost: info@brainandspine.org.uk

www.brainandspine.org.uk

www.brainandspine.org.uk/applications/discussion

^ I’r brig

 

Cerebra

Llinell Gymorth i Rieni: 0800 32 81 159.

Mae Cerebra yn gweithio i helpu i wella bywydau plant a chanddynt gyflyrau cysylltiedig â’r ymennydd trwy wneud gwaith ymchwil, addysgu a chynorthwyo plant a’u gofalwyr yn uniongyrchol. Mae’n darparu gwasanaeth ar gyfer pob rhan o’r DU trwy ei bencadlys yng Nghaerfyrddin a rhwydwaith o swyddfeydd rhanbarthol o amgylch y wlad.

Rhif Elusen Gofrestredig 1089812.
Rhif Cwmni Cyfyngedig drwy Warant 4336380.

Cerebra
Swyddfeydd yr 2il Lawr
Adeilad y Lyric
Heol y Brenin
Caerfyrddin
SA31 1BD

Ffôn: 01267 244200

E-bost: info@cerebra.org.uk

www.cerebra.org.uk

^ I’r brig

 

Charcot-Marie-Tooth United Kingdom (CMT UK)

CMT UK yw’r grŵp cymorth cenedlaethol i bobl â chlefyd Charcot-Marie-Tooth.

Gelwir Clefyd Charcot-Marie-Tooth hefyd yn Niwropatheg Motor a Synhwyraidd Etifeddol (HMSN), neu grebachu cyhyrol peroneol. (Mae’r enwau hyn i gyd yn disgrifio’r un cyflwr).

Mae gan CMT UK ddau brif nod: cynorthwyo a rhoi gwybodaeth i’r rhai sydd â CMT, a chynyddu ymwybyddiaeth o’r cyflwr ymhlith y frawdoliaeth feddygol a’r cyhoedd. Rydym yn gwneud hyn yn genedlaethol a thrwy ein rhwydwaith o grwpiau cymorth lleol.

Rydym hefyd yn ceisio hybu ymchwil ynglŷn â ffyrdd o atal a thrin CMT, a lledaenu canlyniadau ymchwil o’r fath er budd y cyhoedd.

CMT United Kingdom
98 Broadway
Southbourne
Bournemouth
BH6 4EH

Ffôn 0800 6526316

E-bost: info@cmtuk.org.uk

www.cmtuk.org.uk

Ysgrifennydd: Karen Butcher 01202 432048

Oriau’r swyddfa: 9.00am tan 3.00pm, dydd Llun a dydd Gwener; bydd yr oriau’n amrywio ar ddydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau!

^ I’r brig

 

Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi

Y Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi yw’r corff proffesiynol, addysgol ac undeb llafur ar gyfer ei 49,000 o aelodau yn y DU. Ffisiotherapi yw’r proffesiwn iechyd trydydd fwyaf ar ôl meddygon a nyrsys ac mae 98-99% o’r holl ffisiotherapyddion cofrestredig yn aelodau o’r Gymdeithas. Mae’n cynrychioli oddeutu 1,500 o ffisiotherapyddion, hyfforddwyr technegol, cynorthwywyr a myfyrwyr yng Nghymru. Mae aelodau’r Gymdeithas yn gweithio’n bennaf yn y GIG ond maen nhw hefyd yn gweithio yn y sectorau annibynnol a gwirfoddol, ac mewn addysg, ymchwil, diwydiant ac iechyd galwedigaethol.

Swyddfa’r Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi
3ydd Llawr
1 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9SD

Ffôn – 029 2038 2429

Ffacs – 029 2022 7383

wales@csp.org.uk

www.csp.org.uk

Swyddogion:
Cysylltiadau Cyflogaeth – Peter Finch
Polisi a Materion Cyhoeddus – Pip Ford

^ I’r brig

 

Coleg Therapyddion Galwedigaethol

Cymdeithas Brydeinig a Choleg y Therapyddion Galwedigaethol yw’r corff proffesiynol a’r Undeb Llafur ar gyfer staff therapi galwedigaethol yn y DU. Mae therapyddion a gweithwyr cymorth galwedigaethol yn helpu pobl i fod mor annibynnol â phosibl wrth wneud y gweithgareddau (galwedigaethau) sy’n gwella eu hiechyd a’u lles.

The British Association and College of Occupational Therapists
106-114 Borough High Street,
Southwark,
London,
SE1 1LB

Ffôn 020 7357 6480

www.cot.org.uk

^ I’r brig

 

Cymdeithas Dystonia

Mae’r Gymdeithas Dystonia yn bodoli i hybu lles pobl yr effeithir arnynt gan unrhyw ffurf ar yr anhwylder symud niwrolegol o’r enw dystonia. Mae’r Gymdeithas yn ceisio gwneud hyn trwy hybu ymwybyddiaeth o’r anhwylder, cefnogi gwaith ymchwil ac ymgymryd â mentrau lles. Mae’n gwneud hyn ar lefel genedlaethol a thrwy ei rhwydwaith o grwpiau cymorth lleol. Cyswllt lleol: Alan Tamlyn, Ffôn 02920914600 (Caerdydd)

The Dystonia Society
1st Floor, Camelford House
89 Albert Embankment
London
SE1 7TP

Ffôn 08454 586211

E-bost: info@dystonia.org.uk

Gwefan: www.dystonia.org.uk

Llinell gymorth: 0845 458 6322

^ I’r brig

 

Different Strokes

Llinell gymorth: 0845 130 7172

Sefydlwyd Different Strokes gan bobl iau sydd wedi goroesi strôc ac mae’n dal i gael ei reoli a’i staffio i raddau helaeth gan oroeswyr strôc iau. Mae’n darparu gwybodaeth, cymorth, arweiniad a dosbarthiadau ymarfer arbenigol ar draws y DU i alluogi pobl iau sydd wedi goroesi strôc i wella cymaint â phosibl yn gorfforol ac yn seicolegol.

Different Strokes
9 Canon Harnett Court
Wolverton Mill
Milton Keynes MK12 5NF

Ffôn 0845 130 7172 or 01908 317618

Ffacs: 01908 313501

E-bost: info@differentstrokes.co.uk

www.differentstrokes.co.uk

Cyswllt: Debbie Wilson

^ I’r brig

The Encephalitis Society

 

Y Gymdeithas Enseffalitis

Llinell Gymorth/Wybodaeth: 01653 699599
Cyswllt Lleol: Karen Hughes,
Cynrychiolydd Rhanbarthol (Cymru)

Ffôn Uniongyrchol 07760521224
E-bost: encephalitiskaren@yahoo.co.uk

Mae’r Gymdeithas Enseffalitis yn rhoi cymorth i oedolion a phlant yr effeithir arnynt gan enseffalitis trwy ddarparu cyngor a gwybodaeth a gweithio ar lefel genedlaethol i wella gwasanaethau. Llid yr ymennydd yw enseffalitis. Mae’r Gymdeithas Enseffalitis hefyd yn paratoi gwybodaeth seiliedig ar dystiolaeth am bob agwedd ar y cyflwr, yn codi ymwybyddiaeth o’r cyflwr a’i broblemau dilynol ac yn cynnal ymchwil gydag ymchwilwyr eraill a’u sefydliadau.

The Encephalitis Society

7b, Saville Street, Malton, North Yorkshire YO17 7LL

E-bost mail@encephalitis.info

Gwefan www.encephalitis.info

^ I’r brig

 

Epilepsy Action

Llinell gymorth: 0808 800 5050

Epilepsy Action yw’r sefydliad cynrychioliadol arweiniol ar gyfer epilepsi yn y DU, gydag oddeutu 16,000 o aelodau. Mae Epilepsy Action yn helpu dros 688,000 o bobl bob blwyddyn drwy ei ystod o wasanaethau, gan gynnwys ei wasanaeth cyngor a gwybodaeth, ei rwydwaith o ganghennau a’r Cynllun Nyrsys Saffir. Mae dros 75,000 o bobl yn ymweld â gwefan arobryn y sefydliad bob mis. Mae’r Llinell Gymorth Epilepsi (Rhadffôn 0808 800 5050) ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9.00am tan 4.30pm (4.00pm ar ddydd Gwener).

Epilepsy Action
New Anstey House
Gate Way Drive
Yeadon
Leeds
LS19 7XY

Ffôn 0113 210 8800

E-bost: helpline@epilepsy.org.uk

www.epilepsy.org.uk

Cysylltwch ag Ann Sivapatham, rheolwr gwasanaethau rhanbarthol, ar 01633 253407

^ I’r brig

 

Epilepsi Cymru

Llinell gymorth: 0800 228 9016

Mae Epilepsi Cymru yn cynorthwyo pobl ag epilepsi, eu teuluoedd a’u gofalwyr. Mae Epilepsi Cymru yn cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o epilepsi ac yn ymgyrchu dros well gwasanaethau i bobl ag epilepsi. Gwneir hyn ar lefel genedlaethol a thrwy ei rwydwaith o weithwyr maes a grwpiau cymorth lleol.

Epilepsi Cymru
Bradbury House
23 Salisbury Road
Wrecsam
LL13 7AS

Ffôn 01978 312 325

Gwefan: www.epilepsy-wales.org.uk

E-bost: epilepsywales@aol.com

Cyswllt: Fiona Kettell, 01978 312 325 (Gogledd Cymru)

Lesley Morris, 029 2075 5515 (De Cymru)

E-bost: epilepsywales@aol.com

Ffôn/Ffacs: 029 2075 5515

Cyfeiriad: Epilepsi Cymru, Blwch Post 4168, CF14 0WZ

Mae Epilepsi Cymru yn cynorthwyo pobl ag epilepsi, eu teuluoedd a’u gofalwyr.

Mae Epilepsi Cymru yn aelod o’r Cydgyngor Epilepsi, Fforwm Epilepsi Cymru Gyfan a Chynghrair Niwrolegol Cymru.

^ I’r brig

 

Genetic Alliance UK

Genetic Alliance UK yw’r gynghrair genedlaethol o sefydliadau cleifion. Mae dros 130 o elusennau sy’n cynorthwyo’r holl rai yr effeithir arnynt gan anhwylderau genetig yn aelodau o’r Gynghrair. Ein nod yw gwella bywydau pobl yr effeithir arnynt gan gyflyrau genetig trwy sicrhau bod gwasanaethau a gwybodaeth o ansawdd uchel ar gael i bawb sydd arnynt eu hangen.

Cefnogi: Rydym yn ceisio codi ymwybyddiaeth o gyflyrau genetig a gwella ansawdd y gwasanaethau a’r wybodaeth sydd ar gael i gleifion a theuluoedd.

Ymgyrchu: Rydym yn ymgyrchu’n frwd ynglŷn â materion polisi ac arfer i ddylanwadu ar lywodraethau, llunwyr polisïau, diwydiant a darparwyr gofal fel y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Uno: Rydym yn rhoi llais unedig i bawb yr effeithir arnynt gan gyflyrau genetig, gan ein galluogi i weithio gyda’n gilydd tuag at nod cyffredin o wneud bywyd yn well i gleifion a theuluoedd sydd mewn perygl.

Prif swyddfa:
Genetic Alliance UK
Unit 43 Leroy House
436 Essex Rd
London N1 3QP
mail@geneticalliance.org.uk
020 7704 3141

Swyddfa Cymru:
206b Neuadd Meirionnydd
Heath Park
Caerdydd CF14 4YS
williamsbg@cf.ac.uk
029 20 687 646

^ I’r brig

 

Guillain-Barré Syndrome Support Group

Helpline: 0800 374 803

On a national level, the support group provides information, non-medical advice and other assistance to GBS and CIDP sufferers and their families; promoting research into the causes, prevention and treatment of the illnesses. Advancing the education of the public and of the medical professions concerning the illnesses, their causes, prevention and treatment.

Guillain-Barré Syndrome Support Group
Woodholme House
Heckington Business Park
Station Road
Heckington
Sleaford
Lincolnshire
NG34 9JH

Tel: 01529 469910Fax: 01529 469915
Email: admin@gbs.org.uk
www.gbs.org.uk

^ I’r brig

 

Headway UK yng Nghymru

Mae Headway yn bodoli i hybu dealltwriaeth o bob agwedd ar anaf i’r ymennydd ac i ddarparu gwybodaeth, cymorth a gwasanaethau i bobl sydd ag anaf i’r ymennydd, eu teuluoedd a’u gofalwyr. Mae’n gwneud hyn yn lleol trwy rwydwaith o Grwpiau a Changhennau lleol ledled y DU ac Ynysoedd y Sianel sy’n cynnig ystod eang o wasanaethau, gan gynnwys rhaglenni adsefydlu, cymorth i ofalwyr, ailintegreiddio cymdeithasol, allgymorth cymunedol a gofal seibiant. Yn genedlaethol, mae Headway UK yn rhoi cymorth i’r Grwpiau a’r Canghennau lleol ac yn helpu i gyflenwi gwasanaethau o ansawdd uchel trwy roi arweiniad ar bolisïau, gweithdrefnau, safonau a hyfforddiant.

Headway (Wales)
Dave Maggs
Rheolwr Datblygu Cymru

Ffôn 01446 740130

Ffôn symudol: 07909 831873

E-bost: walesdm@headway.org.uk

www.Headway.org.uk

^ I’r brig

 

Cymdeithas Clefyd Huntington

Mae Cymdeithas Clefyd Huntington yn bodoli i gynorthwyo teuluoedd yr effeithir arnynt gan glefyd Huntington. Mae hefyd yn darparu gwybodaeth a chyngor i weithwyr proffesiynol sydd â’r dasg o gynorthwyo’r teuluoedd hyn. Mae gan y Gymdeithas wasanaeth gwybodaeth, cyngor a chymorth canolog, gwasanaeth cynghori rhanbarthol ynglŷn â gofal, a changhennau a grwpiau cymorth lleol. Mae’n cynnig gwasanaeth Llinell Gymorth yn ystod oriau swyddfa, cylchlythyr ddwywaith y flwyddyn, cyhoeddiadau a gwybodaeth, a Chronfa Grant Lles.

Prif Swyddfa’r Gymdeithas:
Neurosupport Centre,
Norton St,
LIVERPOOL,
L3 8LR.

Ffôn 0151 298 3298

E-bost: info@hda.org.uk

Gwefan: www.hda.org.uk

Cynghorydd Gofal Rhanbarthol De a Gorllewin Cymru: Jacqueline Peacock, Ffôn 01873 831931, E-bost: peacock_j@btconnect.com

Cynghorydd Gofal Rhanbarthol Gogledd a Chanolbarth Cymru: Di Lyes, Ffôn 01691 671722, E-bost: dilyeshda@yahoo.co.uk

^ I’r brig

 

Cymdeithas Clefyd Niwronau Motor (MNDAssoc)

Clefyd niwroddirywiol marwol sy’n datblygu’n gyflym yw Clefyd Niwronau Motor (MND), ac fe all effeithio ar unrhyw oedolyn ar unrhyw adeg. Mae pum person yn marw o MND bob dydd yn y DU. Gweledigaeth y Gymdeithas MND yw byd heb MND. Ein cenhadaeth yw ariannu a hybu ymchwil i roi terfyn ar MND. Tan hynny, byddwn yn gwneud popeth a allwn i alluogi pawb sydd ag MND i dderbyn y gofal gorau, cael bywyd o’r ansawdd uchaf posibl, a marw gydag urddas. Byddwn hefyd yn gwneud popeth a allwn i gynorthwyo teuluoedd a gofalwyr pobl ag MND.

www.mndassociation.org

MND Connect 08457 626262

^ I’r brig

 

Ymgyrch Nychdod Cyhyrol

www.muscular-dystrophy.org/

^ I’r brig

 

Cymdeithas Myasthenia Gravis

Mae’r Gymdeithas Myasthenia Gravis yn bodoli i gynorthwyo cleifion sydd â’r cyflwr niwro-gyhyrol anwelladwy Myasthenia Gravis, sef clefyd sy’n gwanhau’r cyhyrau. Mae’r Gymdeithas a’i changhennau cysylltiedig yn gweithio i godi ymwybyddiaeth gyhoeddus a meddygol o’r cyflwr.

Swyddfa: Myasthenia Gravis Association The College Business Centre, Uttoxeter, New Road DERBY DE22 3WZ

Ffôn: 01332-290219 Ffacs: 01332-293641
Llinellau Cymorth Rhadffôn: Yn y DU: 0800-919922

Yng Ngweriniaeth Iwerddon: 1800-409672

Gwefan: http://www.mgauk.org/
E-bost: mg@mga-charity.org

Ymholiadau: Jackie Thornhill

^ I’r brig

 

Grŵp Cymorth Dystroffi Myotonig

www.myotonicdystrophysupportgroup.org/

^ I’r brig

 

Multiple Sclerosis Society Cymru (MSSoc)

029 2078 6676

MS Society Cymru yw’r elusen Cymru gyfan sy’n ymroddedig i gefnogi pobl sy’n dioddef o MS, yn ogystal â rhoi cymorth i’w teuluoedd, eu ffrindiau, eu gofalwyr a’u cydweithwyr. Mae nifer sylweddol o aelodau Cyngor Cenedlaethol a gwirfoddolwyr MS Society Cymru un ai’n dioddef o MS neu mae ganddynt gysylltiad personol ag MS. Mae’r Gymdeithas yn darparu gofal a chymorth trwy wasanaethau sy’n cynnwys gwasanaeth gwybodaeth a llinell gymorth cenedlaethol, cyhoeddiadau, grantiau lles, ariannu ymchwil a chefnogi nyrsys MS arbenigol.

MS Society Cymru
Temple Court
Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9HA
Ffôn 029 2078 6676

E-bost: mscymru@mssociety.org.uk

www.mssociety.org.uk

Cyswllt: Judi Rhys, Cyfarwyddwr, 029 2078 6676

^ I’r brig

 

National Tremor Foundation

Llinell gymorth: 01708 386399

Mae’r National Tremor Foundation yn cynrychioli’r un filiwn o bobl yn y DU sy’n dioddef o gryndod symptomaidd. Cylch gorchwyl yr elusen yw darparu cymorth, cyngor ac addysg, a chodi arian ar gyfer ymchwil i gryndod o bob math. Ewch i’n gwefan yn www.tremor.org.uk neu ymunwch â’n grŵp (National Tremor Foundation) ar Facebook i sgwrsio ac ymadweithio â’n haelodau.

www.tremor.org.uk/

^ I’r brig

 

Parkinson’s UK

Elusen ymchwil a chymorth yw Parkinson’s UK yng Nghymru, sy’n ymroddedig i ganfod gwellhad a gwella bywyd pawb yr effeithir arnynt gan glefyd Parkinson. Rydym hefyd yn ymgyrchu i newid agweddau a mynnu gwell gwasanaethau. Mae rhywun yn cael gwybod ei fod yn dioddef o glefyd Parkinson bob awr, a chan ein bod ni yma ni fydd yn rhaid i neb wynebu’r clefyd ar ei ben ei hun. Rydym yn dod â phobl sydd â chlefyd Parkinson, eu gofalwyr a’u teuluoedd at ei gilydd trwy ein rhwydwaith o grwpiau lleol, ein gwefan a’n llinell gymorth gyfrinachol rad ac am ddim. Mae nyrsys arbenigol, ein cefnogwyr a’n staff yn darparu gwybodaeth a hyfforddiant ynglŷn â phob agwedd ar glefyd Parkinson.

Manylion cyswllt:

Parkinson’s UK / Cymru
Maritime Offices
Woodland Terrace
Maes y Coed
Pontypridd
CF47 1DZ

0844 225 3784

www.parkinsons.org.uk

wales@parkinsons.org.uk

Llinell gymorth gyfrinachol rad ac am ddim 0808 800 0303

^ I’r brig

 

Progressive Supranuclear Palsy Association

Nod y Progressive Supranuclear Palsy (PSP) Association yw trechu PSP a CBD (Dirywiad Corticobasal) trwy:

  • ddarparu gwybodaeth a chymorth i deuluoedd sy’n dioddef ar draws y DU ac Ewrop

  • codi ymwybyddiaeth o PSP/CBD ymhlith y cyhoedd a gweithwyr gofal iechyd a chymdeithasol proffesiynol yn y DU

  • hybu a noddi gwaith ymchwil byd-eang ynglŷn ag achosion PSP a CBD, triniaeth effeithiol a gwellhad yn y pen draw ar ei gyfer

Llinell Gymorth Nyrs Arbenigol – 01934 842366

Swyddog Datblygu Ardal – 01935 851609

Cyfeiriad y Brif Swyddfa:
PSP House
167 Watling St West
Towcester
Northants
NN12 6BX

Ffôn . 01327 322410

Ffacs . 01327 322412

E-bost. psp@pspeur.org

Gwefan. www.pspeur.org

^ I’r brig

 

Y Gymdeithas Strôc

Helpline: 0303 3033 100

The Stroke Association is the only UK charity solely concerned with helping everyone affected by stroke. The Associations main focus is to prevent strokes and to give support to people who have had a stroke and their families through information, and rehabilitation and support services.

The Stroke Assocation
Green Meadow Business Park
Unit 8
CaeGwyrdd
Tongwynlais
Cardiff CF12 7AB

Tel: 02920 524407

Email: info.cymru@stroke.org.uk

www.stroke.org.uk/

Contact: Claire O’Shea

^ I’r brig

 

Cymdeithas Cymorth ME a CFS Cymru (WAMES)

Llinell gymorth: 0292 051 4328, helpline@wames.org.uk

Mae WAMES yn gweithio yng Nghymru i wella bywydau pobl ag ME, CFS a PVFS, eu teuluoedd a’u gofalwyr. Mae’r Gymdeithas yn gwneud hyn trwy ymgyrchu dros well gwasanaethau, codi ymwybyddiaeth, darparu cymorth i bobl ifanc ag ME a CFS, a datblygu gwybodaeth ddwyieithog i bawb yr effeithir arnynt neu ddarparu gwasanaethau i bobl ag ME a CFS.

The Coach House, Frongôg,
Aberystwyth
Ceredigion SY23 3HN

www.wames.org.uk/cms-cymraeg/

Cyswllt: Jan Russell, ysgrifennydd

enquiries@wames.org.uk

01970 636515

^ I’r brig


Hawlfraint 2010 © Cynghrair Niwrolegol Cymru < Yn ôl | I’r brig ^