Wales Neurological Alliance logo

‘Darparu llais Cymreig cryf i fynegi
buddiannau cyffredin pobl yr effeithir
arnynt gan gyflyrau niwrolegol’

 
 
 

Amdanom ni

Fforwm pwrpasol, â ffocws pendant iddo, yw Cynghrair Niwrolegol Cymru ac mae’n
cynnwys sefydliadau a grwpiau dielw sy’n cynrychioli miloedd lawer o bobl yr effeithir
arnynt gan gyflyrau niwrolegol yng Nghymru.

Lansiwyd y Gynghrair yn 2002 er mwyn sicrhau y rhoddir blaenoriaeth i wasanaethau
niwrolegol ar bob lefel wrth gynllunio iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r Gynghrair yn
galluogi sefydliadau/grwpiau niwrolegol i ymgyrchu gyda’i gilydd a siarad â llais
dylanwadol.

Ein Datganiad Cenhadaeth

Rydym yn cynorthwyo pobl â chyflyrau niwrolegol yng Nghymru i fyw’r bywyd gorau
posibl trwy ddylanwadu ar bolisi, codi ymwybyddiaeth a datblygu gwasanaethau.

Ein Gweledigaeth

Bydd y gofal gorau posibl ar gael i bobl sy’n byw gyda chyflyrau niwrolegol, bydd
ganddynt reolaeth dros eu bywydau a byddant yn cael byw yn rhydd rhag anwybodaeth
ac anghyfiawnder.

Nod

•  Gwella gwasanaethau i bobl yr effeithir arnynt gan gyflyrau niwrolegol

Amcanion

•  Ymgysylltu â phobl yr effeithir arnynt gan gyflyrau niwrolegol a gweithio mewn partneriaeth â nhw
Codi ymwybyddiaeth o gyflyrau niwrolegol a’u heffaith ar unigolion a’u cymunedau
Hysbysu llunwyr polisi, a dylanwadu arnynt, ynglŷn ag anghenion pobl â chyflyrau niwrolegol
Cefnogi a hyrwyddo gwaith ymchwil priodol
Hawlfraint 2010 © Cynghrair Niwrolegol Cymru < Yn ôl | I’r brig ^